Deuteronomium 10:20-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Yr Arglwydd dy Dduw a ofni, ac ef a wasanaethi: wrtho ef hefyd y glyni, ac i'w enw ef y tyngi.

21. Efe yw dy fawl, ac efe yw dy Dduw yr hwn a wnaeth i ti y mawrion a'r ofnadwy bethau hyn, y rhai a welodd dy lygaid.

22. Dy dadau a aethant i waered i'r Aifft yn ddeg enaid a thrigain; ac yr awr hon yr Arglwydd dy Dduw a'th wnaeth di fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd.

Deuteronomium 10