Deuteronomium 10:16-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Enwaedwch chwithau ddienwaediad eich calon, ac na chaledwch eich gwar mwyach.

17. Canys yr Arglwydd eich Duw chwi yw Duw y duwiau, ac Arglwydd yr arglwyddi, Duw mawr, cadarn, ac ofnadwy yr hwn ni dderbyn wyneb, ac ni chymer wobr.

18. Yr hwn a farna'r amddifad a'r weddw; ac y sydd yn hoffi'r dieithr, gan roddi iddo fwyd a dillad.

19. Hoffwch chwithau y dieithr: canys dieithriaid fuoch yn nhir yr Aifft.

20. Yr Arglwydd dy Dduw a ofni, ac ef a wasanaethi: wrtho ef hefyd y glyni, ac i'w enw ef y tyngi.

Deuteronomium 10