Deuteronomium 10:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr amser hwnnw y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Nadd i ti ddwy lech faen, fel y rhai cyntaf; a thyred i fyny ataf fi i'r mynydd, a gwna i ti arch bren.

2. A mi a ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist; a gosod dithau hwynt yn yr arch.

3. Yna gwneuthum arch o goed Sittim; ac a neddais ddwy lech faen, fel y rhai cyntaf; ac a euthum i fyny i'r mynydd, a'r ddwy lech yn fy llaw.

4. Ac efe a ysgrifennodd ar y llechau, fel yr ysgrifen gyntaf, y dengair, a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, yn nydd y gymanfa: a rhoddes yr Arglwydd hwynt ataf fi.

5. Yna y dychwelais ac y deuthum i waered o'r mynydd, ac a osodais y llechau yn yr arch, yr hon a wnaethwn, ac yno y maent; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i mi.

6. A meibion Israel a aethant o Beeroth meibion Jacan i Mosera: yno y bu farw Aaron, ac efe a gladdwyd yno; ac Eleasar ei fab a offeiriadodd yn ei le ef.

7. Oddi yno yr aethant i Gudgoda; ac o Gudgoda i Jotbath, tir afonydd dyfroedd.

8. Yr amser hwnnw y neilltuodd yr Arglwydd lwyth Lefi, i ddwyn arch cyfamod yr Arglwydd, i sefyll gerbron yr Arglwydd, i'w wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef, hyd y dydd hwn.

9. Am hynny ni bydd rhan i Lefi, nac etifeddiaeth gyda'i frodyr: yr Arglwydd yw ei etifeddiaeth ef; megis y dywedodd yr Arglwydd dy Dduw wrtho ef.

10. A mi a arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y dyddiau cyntaf: a gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith hon hefyd; ni ewyllysiodd yr Arglwydd dy ddifetha di.

Deuteronomium 10