Datguddiad 9:7-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. A dull y locustiaid oedd debyg i feirch wedi eu paratoi i ryfel; ac yr oedd ar eu pennau megis coronau yn debyg i aur, a'u hwynebau fel wynebau dynion.

8. A gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwragedd, a'u dannedd oedd fel dannedd llewod.

9. Ac yr oedd ganddynt lurigau fel llurigau haearn; a llais eu hadenydd oedd fel llais cerbydau llawer o feirch yn rhedeg i ryfel.

10. Ac yr oedd ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionau, ac yr oedd colynnau yn eu cynffonnau hwy: a'u gallu oedd i ddrygu dynion bum mis.

11. Ac yr oedd ganddynt frenin arnynt, sef angel y pydew diwaelod: a'i enw ef yn Hebraeg ydyw Abadon, ac yn Roeg y mae iddo enw Apolyon.

12. Un wae a aeth heibio; wele, y mae yn dyfod eto ddwy wae ar ôl hyn.

13. A'r chweched angel a utganodd; ac mi a glywais lef allan o bedwar corn yr allor aur, yr hon sydd gerbron Duw.

14. Yn dywedyd wrth y chweched angel, yr hwn oedd â'r utgorn ganddo, Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd yn rhwym yn yr afon fawr Ewffrates.

15. A gollyngwyd y pedwar angel, y rhai oedd wedi eu paratoi erbyn awr, a diwrnod, a mis, a blwyddyn, fel y lladdent y traean o'r dynion.

16. A rhifedi'r llu o wŷr meirch oedd ddwy fyrddiwn o fyrddiynau: ac mi a glywais eu rhifedi hwynt.

17. Ac fel hyn y gwelais i'r meirch yn y weledigaeth, a'r rhai oedd yn eistedd arnynt, a chanddynt lurigau tanllyd, ac o liw hyacinth a brwmstan: a phennau'r meirch oedd fel pennau llewod; ac yr oedd yn myned allan o'u safnau, dân, a mwg, a brwmstan.

18. Gan y tri hyn y llas traean y dynion, gan y tân, a chan y mwg, a chan y brwmstan, oedd yn dyfod allan o'u safnau hwynt.

19. Canys eu gallu hwy sydd yn eu safn, ac yn eu cynffonnau: canys y cynffonnau oedd debyg i seirff, a phennau ganddynt; ac â'r rhai hynny y maent yn drygu.

20. A'r dynion eraill, y rhai ni laddwyd gan y plâu hyn, nid edifarhasant oddi wrth weithredoedd eu dwylo eu hun, fel nad addolent gythreuliaid, a delwau aur, ac arian, a phres, a main, a phrennau, y rhai ni allant na gweled, na chlywed, na rhodio:

21. Ac nid edifarhasant oddi wrth eu llofruddiaeth, nac oddi wrth eu cyfareddion, nac oddi wrth eu godineb, nac oddi wrth eu lladrad.

Datguddiad 9