Datguddiad 8:6-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A'r saith angel, y rhai oedd â'r saith utgorn ganddynt, a ymbaratoesant i utganu.

7. A'r angel cyntaf a utganodd; a bu cenllysg a thân wedi eu cymysgu â gwaed, a hwy a fwriwyd i'r ddaear: a thraean y prennau a losgwyd, a'r holl laswellt a losgwyd.

8. A'r ail angel a utganodd; a megis mynydd mawr yn llosgi gan dân a fwriwyd i'r môr: a thraean y môr a aeth yn waed;

9. A bu farw traean y creaduriaid y rhai oedd yn y môr, ac â byw ynddynt; a thraean y llongau a ddinistriwyd.

10. A'r trydydd angel a utganodd; a syrthiodd o'r nef seren fawr yn llosgi fel lamp, a hi a syrthiodd ar draean yr afonydd, ac ar ffynhonnau'r dyfroedd;

Datguddiad 8