Datguddiad 7:16-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Ni fydd arnynt na newyn mwyach, na syched mwyach; ac ni ddisgyn arnynt na'r haul, na dim gwres.

17. Oblegid yr Oen, yr hwn sydd yng nghanol yr orseddfainc, a'u bugeilia hwynt, ac a'u harwain hwynt at ffynhonnau bywiol o ddyfroedd: a Duw a sych ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt.

Datguddiad 7