Datguddiad 6:2-4 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Ac mi a welais; ac wele farch gwyn: a'r hwn oedd yn eistedd arno, a bwa ganddo; a rhoddwyd iddo goron: ac efe a aeth allan yn gorchfygu, ac i orchfygu.

3. A phan agorodd efe yr ail sêl, mi a glywais yr ail anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl.

4. Ac fe aeth allan farch arall, un coch: a'r hwn oedd yn eistedd arno, y rhoddwyd iddo gymryd heddwch oddi ar y ddaear, fel y lladdent ei gilydd: a rhoddwyd iddo ef gleddyf mawr.

Datguddiad 6