Datguddiad 5:12-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Yn dywedyd â llef uchel, Teilwng yw'r Oen, yr hwn a laddwyd, i dderbyn gallu, a chyfoeth, a doethineb, a chadernid, ac anrhydedd, a gogoniant, a bendith.

13. A phob creadur a'r sydd yn y nef, ac ar y ddaear, a than y ddaear, a'r pethau sydd yn y môr, ac oll a'r sydd ynddynt, a glywais i yn dywedyd, I'r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac i'r Oen, y byddo'r fendith, a'r anrhydedd, a'r gogoniant, a'r gallu, yn oes oesoedd.

14. A'r pedwar anifail a ddywedasant, Amen. A'r pedwar henuriad ar hugain a syrthiasant i lawr, ac a addolasant yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd.

Datguddiad 5