Datguddiad 4:5-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Ac yr oedd yn dyfod allan o'r orseddfainc fellt, a tharanau, a lleisiau: ac yr oedd saith o lampau tân yn llosgi gerbron yr orseddfainc, y rhai yw saith Ysbryd Duw.

6. Ac o flaen yr orseddfainc yr ydoedd môr o wydr, yn debyg i grisial: ac yng nghanol yr orseddfainc, ac ynghylch yr orseddfainc, yr oedd pedwar anifail yn llawn o lygaid o'r tu blaen ac o'r tu ôl.

7. A'r anifail cyntaf oedd debyg i lew, a'r ail anifail yn debyg i lo, a'r trydydd anifail oedd ganddo wyneb fel dyn, a'r pedwerydd anifail oedd debyg i eryr yn ehedeg.

8. A'r pedwar anifail oedd ganddynt, bob un ohonynt, chwech o adenydd o'u hamgylch; ac yr oeddynt oddi fewn yn llawn llygaid: ac nid oeddynt yn gorffwys ddydd a nos, gan ddywedyd, Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn oedd, a'r hwn sydd, a'r hwn sydd i ddyfod.

Datguddiad 4