Datguddiad 2:24-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Eithr wrthych chwi yr wyf yn dywedyd, ac wrth y lleill yn Thyatira, y sawl nid oes ganddynt y ddysgeidiaeth hon, a'r rhai nid adnabuant ddyfnderau Satan, fel y dywedant; Ni fwriaf arnoch faich arall.

25. Eithr yr hyn sydd gennych, deliwch hyd oni ddelwyf.

26. A'r hwn sydd yn gorchfygu, ac yn cadw fy ngweithredoedd hyd y diwedd, mi a roddaf iddo awdurdod ar y cenhedloedd:

27. Ac efe a'u bugeilia hwy รข gwialen haearn; fel llestri pridd y dryllir hwynt: fel y derbyniais innau gan fy Nhad.

28. Ac mi a roddaf iddo'r seren fore.

29. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.

Datguddiad 2