Datguddiad 2:19-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th gariad, a'th wasanaeth, a'th ffydd, a'th amynedd di, a'th weithredoedd; a bod y rhai diwethaf yn fwy na'r rhai cyntaf.

20. Eithr y mae gennyf ychydig bethau yn dy erbyn, oblegid dy fod yn gadael i'r wraig honno Jesebel, yr hon sydd yn ei galw ei hun yn broffwydes, ddysgu a thwyllo fy ngwasanaethwyr i odinebu, ac i fwyta pethau wedi eu haberthu i eilunod.

21. Ac mi a roddais iddi amser i edifarhau am ei godineb; ac nid edifarhaodd hi.

22. Wele, yr wyf fi yn ei bwrw hi ar wely, a'r rhai sydd yn godinebu gyda hi, i gystudd mawr, onid edifarhânt am eu gweithredoedd.

23. A'i phlant hi a laddaf â marwolaeth: a'r holl eglwysi a gânt wybod mai myfi yw'r hwn sydd yn chwilio'r arennau a'r calonnau: ac mi a roddaf i bob un ohonoch yn ôl eich gweithredoedd.

24. Eithr wrthych chwi yr wyf yn dywedyd, ac wrth y lleill yn Thyatira, y sawl nid oes ganddynt y ddysgeidiaeth hon, a'r rhai nid adnabuant ddyfnderau Satan, fel y dywedant; Ni fwriaf arnoch faich arall.

25. Eithr yr hyn sydd gennych, deliwch hyd oni ddelwyf.

26. A'r hwn sydd yn gorchfygu, ac yn cadw fy ngweithredoedd hyd y diwedd, mi a roddaf iddo awdurdod ar y cenhedloedd:

27. Ac efe a'u bugeilia hwy â gwialen haearn; fel llestri pridd y dryllir hwynt: fel y derbyniais innau gan fy Nhad.

28. Ac mi a roddaf iddo'r seren fore.

29. Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddywedyd wrth yr eglwysi.

Datguddiad 2