Datguddiad 18:22-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. A llais telynorion, a cherddorion, a phibyddion, ac utganwyr, ni chlywir ynot mwyach: ac un crefftwr, o ba grefft bynnag y bo, ni cheir ynot mwyach; a thrwst maen melin ni chlywir ynot mwyach;

23. A llewyrch cannwyll ni welir ynot mwyach; a llais priodasfab a phriodasferch ni chlywir ynot mwyach: oblegid dy farchnatawyr di oedd wŷr mawr y ddaear: oblegid trwy dy swyn-gyfaredd di y twyllwyd yr holl genhedloedd.

24. Ac ynddi y caed gwaed proffwydi a saint, a phawb a'r a laddwyd ar y ddaear.

Datguddiad 18