18. Ac yr oedd lleisiau a tharanau, a mellt; ac yr oedd daeargryn mawr, y fath ni bu er pan yw dynion ar y ddaear, cymaint daeargryn, ac mor fawr.
19. A gwnaethpwyd y ddinas fawr yn dair rhan, a dinasoedd y cenhedloedd a syrthiasant: a Babilon fawr a ddaeth mewn cof gerbron Duw, i roddi iddi gwpan gwin digofaint ei lid ef.
20. A phob ynys a ffodd ymaith, ac ni chafwyd y mynyddoedd.
21. A chenllysg mawr, fel talentau, a syrthiasant o'r nef ar ddynion: a dynion a gablasant Dduw am bla'r cenllysg: oblegid mawr iawn ydoedd eu pla hwynt.