Datguddiad 16:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac mi a glywais lef uchel allan o'r deml, yn dywedyd wrth y saith angel, Ewch ymaith, a thywelltwch ffiolau digofaint Duw ar y ddaear.

2. A'r cyntaf a aeth, ac a dywalltodd ei ffiol ar y ddaear; a bu cornwyd drwg a blin ar y dynion oedd â nod y bwystfil arnynt, a'r rhai a addolasent ei ddelw ef.

3. A'r ail angel a dywalltodd ei ffiol ar y môr; ac efe a aeth fel gwaed dyn marw: a phob enaid byw a fu farw yn y môr.

4. A'r trydydd angel a dywalltodd ei ffiol ar yr afonydd ac ar y ffynhonnau dyfroedd; a hwy a aethant yn waed.

5. Ac mi a glywais angel y dyfroedd yn dywedyd, Cyfiawn, O Arglwydd, ydwyt ti, yr hwn wyt, a'r hwn oeddit, a'r hwn a fyddi; oblegid barnu ohonot y pethau hyn.

6. Oblegid gwaed saint a phroffwydi a dywalltasant hwy, a gwaed a roddaist iddynt i'w yfed; canys y maent yn ei haeddu.

7. Ac mi a glywais un arall allan o'r allor yn dywedyd, Ie, Arglwydd Dduw Hollalluog, cywir a chyfiawn yw dy farnau di.

8. A'r pedwerydd angel a dywalltodd ei ffiol ar yr haul; a gallu a roed iddo i boethi dynion â thân.

9. A phoethwyd y dynion â gwres mawr; a hwy a gablasant enw Duw, yr hwn sydd ag awdurdod ganddo ar y plâu hyn: ac nid edifarhasant, i roi gogoniant iddo ef.

10. A'r pumed angel a dywalltodd ei ffiol ar orseddfainc y bwystfil; a'i deyrnas ef a aeth yn dywyll: a hwy a gnoesant eu tafodau gan ofid,

11. Ac a gablasant Dduw'r nef, oherwydd eu poenau, ac oherwydd eu cornwydydd; ac nid edifarhasant oddi wrth eu gweithredoedd.

Datguddiad 16