Datguddiad 15:3-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A chanu y maent gân Moses gwasanaethwr Duw, a chân yr Oen; gan ddywedyd, Mawr a rhyfedd yw dy weithredoedd, O Arglwydd Dduw Hollalluog; cyfiawn a chywir yw dy ffyrdd di, Brenin y saint.

4. Pwy ni'th ofna di, O Arglwydd, ac ni ogonedda dy enw? oblegid tydi yn unig wyt sanctaidd: oblegid yr holl genhedloedd a ddeuant ac a addolant ger dy fron di; oblegid dy farnau di a eglurwyd.

5. Ac ar ôl hyn mi a edrychais, ac wele, yr ydoedd teml pabell y dystiolaeth yn y nef yn agored:

6. A daeth y saith angel, y rhai yr oedd y saith bla ganddynt, allan o'r deml, wedi eu gwisgo mewn lliain pur a disglair, a gwregysu eu dwyfronnau â gwregysau aur.

Datguddiad 15