Datguddiad 14:2-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Ac mi a glywais lef o'r nef, fel llef dyfroedd lawer, ac fel llef taran fawr: ac mi a glywais lef telynorion yn canu ar eu telynau:

3. A hwy a ganasant megis caniad newydd gerbron yr orseddfainc, a cherbron y pedwar anifail, a'r henuriaid: ac ni allodd neb ddysgu'r gân, ond y pedair mil a'r saith ugeinmil, y rhai a brynwyd oddi ar y ddaear.

4. Y rhai hyn yw'r rhai ni halogwyd â gwragedd; canys gwyryfon ydynt. Y rhai hyn yw'r rhai sydd yn dilyn yr Oen pa le bynnag yr elo. Y rhai hyn a brynwyd oddi wrth ddynion, yn flaenffrwyth i Dduw ac i'r Oen.

5. Ac yn eu genau ni chaed twyll: canys difai ydynt gerbron gorseddfainc Duw.

6. Ac mi a welais angel arall yn ehedeg yng nghanol y nef, a'r efengyl dragwyddol ganddo, i efengylu i'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, ac i bob cenedl, a llwyth, ac iaith, a phobl:

7. Gan ddywedyd â llef uchel, Ofnwch Dduw, a rhoddwch iddo ogoniant; oblegid daeth awr ei farn ef: ac addolwch yr hwn a wnaeth y nef, a'r ddaear, a'r môr, a'r ffynhonnau dyfroedd.

8. Ac angel arall a ddilynodd, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon, y ddinas fawr honno, oblegid hi a ddiododd yr holl genhedloedd â gwin llid ei godineb.

9. A'r trydydd angel a'u dilynodd hwynt, gan ddywedyd â llef uchel, Os addola neb y bwystfil a'i ddelw ef, a derbyn ei nod ef yn ei dalcen, neu yn ei law,

10. Hwnnw hefyd a yf o win digofaint Duw, yr hwn yn ddigymysg a dywalltwyd yn ffiol ei lid ef; ac efe a boenir mewn tân a brwmstan yng ngolwg yr angylion sanctaidd, ac yng ngolwg yr Oen:

Datguddiad 14