1. Ac mi a edrychais, ac wele Oen yn sefyll ar fynydd Seion, a chydag ef bedair mil a saith ugeinmil, a chanddynt enw ei Dad ef yn ysgrifenedig yn eu talcennau.
2. Ac mi a glywais lef o'r nef, fel llef dyfroedd lawer, ac fel llef taran fawr: ac mi a glywais lef telynorion yn canu ar eu telynau:
3. A hwy a ganasant megis caniad newydd gerbron yr orseddfainc, a cherbron y pedwar anifail, a'r henuriaid: ac ni allodd neb ddysgu'r gân, ond y pedair mil a'r saith ugeinmil, y rhai a brynwyd oddi ar y ddaear.