5. A rhoddwyd iddo ef enau yn llefaru pethau mawrion, a chabledd; a rhoddwyd iddo awdurdod i weithio ddau fis a deugain.
6. Ac efe a agorodd ei enau mewn cabledd yn erbyn Duw, i gablu ei enw ef, a'i dabernacl, a'r rhai sydd yn trigo yn y nef.
7. A rhoddwyd iddo wneuthur rhyfel รข'r saint, a'u gorchfygu hwynt: a rhoddwyd iddo awdurdod ar bob llwyth ac iaith, a chenedl.
8. A holl drigolion y ddaear a'i haddolant ef, y rhai nid yw eu henwau yn ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen yr hwn a laddwyd er dechreuad y byd.
9. Od oes gan neb glust, gwrandawed.