Datguddiad 13:15-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. A chaniatawyd iddo ef roddi anadl i ddelw'r bwystfil, fel y llefarai delw'r bwystfil hefyd, ac y parai gael o'r sawl nid addolent ddelw'r bwystfil, eu lladd.

16. Ac y mae yn peri i bawb, fychain a mawrion, cyfoethogion a thlodion, rhyddion a chaethion, dderbyn nod ar eu llaw ddeau, neu ar eu talcennau:

17. Ac na allai neb na phrynu na gwerthu, ond yr hwn a fyddai ganddo nod, neu enw'r bwystfil, neu rifedi ei enw ef.

18. Yma y mae doethineb. Yr hwn sydd ganddo ddeall, bwried rifedi'r bwystfil: canys rhifedi dyn ydyw: a'i rifedi ef yw, Chwe chant a thrigain a chwech.

Datguddiad 13