Datguddiad 10:8-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A'r llef a glywais o'r nef, a lefarodd drachefn wrthyf, ac a ddywedodd, Dos, cymer y llyfr bychan sydd wedi ei agoryd yn llaw'r angel yr hwn sydd yn sefyll ar y môr, ac ar y tir.

9. Ac mi a euthum at yr angel, gan ddywedyd wrtho, Moes i mi'r llyfr bychan. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Cymer, a bwyta ef yn llwyr: ac efe a chwerwa dy fol di, eithr yn dy enau y bydd yn felys fel mêl.

10. Ac mi a gymerais y llyfr bychan o law'r angel, ac a'i bwyteais ef; ac yr oedd efe yn fy ngenau megis mêl yn felys: ac wedi imi ei fwyta ef, fy mol a aeth yn chwerw.

11. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Rhaid i ti drachefn broffwydo i bobloedd, a chenhedloedd, ac ieithoedd, a brenhinoedd lawer.

Datguddiad 10