Datguddiad 1:6-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Ac a'n gwnaeth ni yn frenhinoedd ac yn offeiriaid i Dduw a'i Dad ef; iddo ef y byddo'r gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd. Amen.

7. Wele, y mae efe yn dyfod gyda'r cymylau; a phob llygad a'i gwêl ef, ie, y rhai a'i gwanasant ef: a holl lwythau'r ddaear a alarant o'i blegid ef. Felly, Amen.

8. Mi yw Alffa ac Omega, y dechrau a'r diwedd, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd, a'r hwn oedd, a'r hwn sydd i ddyfod, yr Hollalluog.

9. Myfi Ioan, yr hwn wyf hefyd eich brawd, a'ch cydymaith mewn cystudd, ac yn nheyrnas ac amynedd Iesu Grist, oeddwn yn yr ynys a elwir Patmos, am air Duw, ac am dystiolaeth Iesu Grist.

10. Yr oeddwn i yn yr ysbryd ar ddydd yr Arglwydd; ac a glywais o'r tu ôl i mi lef fawr fel llais utgorn,

11. Yn dywedyd, Mi yw Alffa ac Omega, y cyntaf a'r diwethaf: a'r hyn yr wyt yn ei weled, ysgrifenna mewn llyfr, a danfon i'r saith eglwys y rhai sydd yn Asia; i Effesus, ac i Smyrna, ac i Pergamus, ac i Thyatira, ac i Sardis, a Philadelffia, a Laodicea.

12. Ac mi a droais i weled y llef a lefarai wrthyf. Ac wedi i mi droi, mi a welais saith ganhwyllbren aur;

13. Ac yng nghanol y saith ganhwyllbren, un tebyg i Fab y dyn, wedi ymwisgo â gwisg laes hyd ei draed, ac wedi ymwregysu ynghylch ei fronnau â gwregys aur.

14. Ei ben ef a'i wallt oedd wynion fel gwlân, cyn wynned â'r eira; a'i lygaid fel fflam dân;

15. A'i draed yn debyg i bres coeth, megis yn llosgi mewn ffwrn; a'i lais fel sŵn llawer o ddyfroedd.

16. Ac yr oedd ganddo yn ei law ddeau saith seren: ac o'i enau yr oedd cleddau llym daufiniog yn dyfod allan: a'i wynepryd fel yr haul yn disgleirio yn ei nerth.

Datguddiad 1