12. A rhoddwyd iddo lu yn erbyn yr offrwm beunyddiol oherwydd camwedd, ac efe a fwriodd y gwirionedd i lawr; felly y gwnaeth, ac y llwyddodd.
13. Yna y clywais ryw sant yn llefaru, a dywedodd rhyw sant arall wrth y rhyw sant hwnnw oedd yn llefaru, Pa hyd y bydd y weledigaeth am yr offrwm gwastadol, a chamwedd anrhaith i roddi y cysegr a'r llu yn sathrfa?
14. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Hyd ddwy fil a thri chant o ddiwrnodiau: yna y purir y cysegr.
15. A phan welais i Daniel y weledigaeth, a cheisio ohonof y deall, yna wele, safodd ger fy mron megis rhith gŵr.
16. A chlywais lais dyn rhwng glannau Ulai, ac efe a lefodd ac a ddywedodd, Gabriel, gwna i hwn ddeall y weledigaeth.
17. Ac efe a ddaeth yn agos i'r lle y safwn; a phan ddaeth, mi a ddychrynais, ac a syrthiais ar fy wyneb: ac efe a ddywedodd wrthyf, Deall, fab dyn; oherwydd y weledigaeth fydd yn amser y diwedd.
18. A thra yr oedd efe yn llefaru wrthyf, syrthiais mewn trymgwsg i lawr ar fy wyneb: ac efe a gyffyrddodd â mi, ac a'm cyfododd yn fy sefyll.
19. Dywedodd hefyd, Wele fi yn hysbysu i ti yr hyn a fydd yn niwedd y dicter; canys ar yr amser gosodedig y bydd y diwedd.
20. Yr hwrdd deugorn a welaist, yw brenhinoedd Media a Phersia.
21. A'r bwch blewog yw brenin Groeg; a'r corn mawr, yr hwn sydd rhwng ei lygaid ef, dyna y brenin cyntaf.
22. Lle y torrwyd ef, ac y cyfododd pedwar yn ei le, pedair brenhiniaeth a gyfodant o'r un genedl, ond nid un nerth ag ef.
23. A thua diwedd eu brenhiniaeth hwynt, pan gyflawner y troseddwyr, y cyfyd brenin wyneb‐greulon, ac yn deall damhegion.
24. A'i nerth ef a gryfha, ond nid trwy ei nerth ei hun; ac efe a ddinistria yn rhyfedd, ac a lwydda, ac a wna, ac a ddinistria y cedyrn, a'r bobl sanctaidd.
25. A thrwy ei gyfrwystra y ffynna ganddo dwyllo; ac efe a ymfawryga yn ei galon, a thrwy heddwch y dinistria efe lawer: ac efe a saif yn erbyn tywysog y tywysogion; ond efe a ddryllir heb law.
26. A gweledigaeth yr hwyr a'r bore, yr hon a draethwyd, sydd wirionedd: selia dithau y weledigaeth, oherwydd dros ddyddiau lawer y bydd.
27. Minnau Daniel a euthum yn llesg, ac a fûm glaf ennyd o ddyddiau; yna y cyfodais, ac y gwneuthum orchwyl y brenin, ac a synnais oherwydd y weledigaeth, ond nid oedd neb yn ei deall.