19. Yna y cododd y brenin yn fore iawn ar y wawrddydd, ac a aeth ar frys at ffau y llewod.
20. A phan nesaodd efe at y ffau, efe a lefodd ar Daniel รข llais trist. Llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Daniel, gwasanaethwr y Duw byw, a all dy Dduw di, yr hwn yr wyt yn ei wasanaethu yn wastad, dy gadw di rhag y llewod?
21. Yna y dywedodd Daniel wrth y brenin, O frenin, bydd fyw byth.
22. Fy Nuw a anfonodd ei angel, ac a gaeodd safnau y llewod, fel na wnaethant i mi niwed: oherwydd puredd a gaed ynof ger ei fron ef; a hefyd ni wneuthum niwed o'th flaen dithau, frenin.
23. Yna y brenin fu dda iawn ganddo o'i achos ef, ac a archodd gyfodi Daniel allan o'r ffau. Yna y codwyd Daniel o'r ffau; ac ni chaed niwed arno, oherwydd credu ohono yn ei Dduw.