Daniel 6:16-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Yna yr archodd y brenin, a hwy a ddygasant Daniel, ac a'i bwriasant i ffau y llewod. Yna y brenin a lefarodd ac a ddywedodd wrth Daniel, Dy Dduw, yr hwn yr ydwyt yn ei wasanaethu yn wastad, efe a'th achub di.

17. A dygwyd carreg ac a'i gosodwyd ar enau y ffau; a'r brenin a'i seliodd hi â'i sêl ei hun, ac â sêl ei dywysogion, fel na newidid yr ewyllys am Daniel.

18. Yna yr aeth y brenin i'w lys, ac a fu y noson honno heb fwyd: ac ni adawodd ddwyn difyrrwch o'i flaen; ei gwsg hefyd a giliodd oddi wrtho.

19. Yna y cododd y brenin yn fore iawn ar y wawrddydd, ac a aeth ar frys at ffau y llewod.

20. A phan nesaodd efe at y ffau, efe a lefodd ar Daniel â llais trist. Llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Daniel, gwasanaethwr y Duw byw, a all dy Dduw di, yr hwn yr wyt yn ei wasanaethu yn wastad, dy gadw di rhag y llewod?

21. Yna y dywedodd Daniel wrth y brenin, O frenin, bydd fyw byth.

22. Fy Nuw a anfonodd ei angel, ac a gaeodd safnau y llewod, fel na wnaethant i mi niwed: oherwydd puredd a gaed ynof ger ei fron ef; a hefyd ni wneuthum niwed o'th flaen dithau, frenin.

23. Yna y brenin fu dda iawn ganddo o'i achos ef, ac a archodd gyfodi Daniel allan o'r ffau. Yna y codwyd Daniel o'r ffau; ac ni chaed niwed arno, oherwydd credu ohono yn ei Dduw.

24. Yna y gorchmynnodd y brenin, a hwy a ddygasant y gwŷr hynny a gyhuddasent Daniel, ac a'u bwriasant i ffau y llewod, hwy, a'u plant, a'u gwragedd; ac ni ddaethant i waelod y ffau hyd oni orchfygodd y llewod hwynt, a dryllio eu holl esgyrn.

25. Yna yr ysgrifennodd y brenin Dareius at y bobloedd, at y cenhedloedd, a'r ieithoedd oll, y rhai oedd yn trigo yn yr holl ddaear; Heddwch a amlhaer i chwi.

26. Gennyf fi y gosodwyd cyfraith, ar fod trwy holl lywodraeth fy nheyrnas, i bawb grynu ac ofni rhag Duw Daniel: oherwydd efe sydd Dduw byw, ac yn parhau byth; a'i frenhiniaeth ef yw yr hon ni ddifethir, a'i lywodraeth fydd hyd y diwedd.

27. Y mae yn gwaredu ac yn achub, ac yn gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau yn y nefoedd ac ar y ddaear; yr hwn a waredodd Daniel o feddiant y llewod.

28. A'r Daniel hwn a lwyddodd yn nheyrnasiad Dareius, ac yn nheyrnasiad Cyrus y Persiad.

Daniel 6