Daniel 5:5-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Yr awr honno bysedd llaw dyn a ddaethant allan, ac a ysgrifenasant ar gyfer y canhwyllbren ar galchiad pared llys y brenin; a gwelodd y brenin ddarn y llaw a ysgrifennodd.

6. Yna y newidiodd lliw y brenin, a'i feddyliau a'i cyffroesant ef, fel y datododd rhwymau ei lwynau ef, ac y curodd ei liniau ef y naill wrth y llall.

7. Gwaeddodd y brenin yn groch am ddwyn i mewn yr astronomyddion, y Caldeaid, a'r brudwyr: a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth ddoethion Babilon, Pa ddyn bynnag a ddarlleno yr ysgrifen hon, ac a ddangoso i mi ei dehongliad, efe a wisgir â phorffor, ac a gaiff gadwyn aur am ei wddf, a chaiff lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.

8. Yna holl ddoethion y brenin a ddaethant i mewn; ond ni fedrent ddarllen yr ysgrifen, na mynegi i'r brenin ei dehongliad.

9. Yna y mawr gyffrôdd y brenin Belsassar, a'i wedd a ymnewidiodd ynddo, a'i dywysogion a synasant.

Daniel 5