1. Belsassar y brenin a wnaeth wledd fawr i fil o'i dywysogion, ac a yfodd win yng ngŵydd y mil.
2. Wrth flas y gwin y dywedodd Belsassar am ddwyn y llestri aur ac arian, a ddygasai Nebuchodonosor ei dad ef o'r deml yr hon oedd yn Jerwsalem, fel yr yfai y brenin a'i dywysogion, ei wragedd a'i ordderchadon, ynddynt.
3. Yna y dygwyd y llestri aur a ddygasid o deml tŷ Dduw, yr hwn oedd yn Jerwsalem: a'r brenin a'i dywysogion, ei wragedd a'i ordderchadon, a yfasant ynddynt.
4. Yfasant win, a molianasant y duwiau o aur, ac o arian, o bres, o haearn, o goed, ac o faen.
5. Yr awr honno bysedd llaw dyn a ddaethant allan, ac a ysgrifenasant ar gyfer y canhwyllbren ar galchiad pared llys y brenin; a gwelodd y brenin ddarn y llaw a ysgrifennodd.
6. Yna y newidiodd lliw y brenin, a'i feddyliau a'i cyffroesant ef, fel y datododd rhwymau ei lwynau ef, ac y curodd ei liniau ef y naill wrth y llall.
7. Gwaeddodd y brenin yn groch am ddwyn i mewn yr astronomyddion, y Caldeaid, a'r brudwyr: a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth ddoethion Babilon, Pa ddyn bynnag a ddarlleno yr ysgrifen hon, ac a ddangoso i mi ei dehongliad, efe a wisgir â phorffor, ac a gaiff gadwyn aur am ei wddf, a chaiff lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.