Daniel 4:30-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

30. Llefarodd y brenin, a dywedodd, Onid hon yw Babilon fawr, yr hon a adeiledais i yn frenhindy yng nghryfder fy nerth, ac er gogoniant fy mawrhydi?

31. A'r gair eto yng ngenau y brenin, syrthiodd llef o'r nefoedd, yn dywedyd, Wrthyt ti, frenin Nebuchodonosor, y dywedir, Aeth y frenhiniaeth oddi wrthyt.

32. A thi a yrrir oddi wrth ddynion, a'th drigfa fydd gyda bwystfilod y maes; รข gwellt y'th borthant fel eidionau; a chyfnewidir saith amser arnat; hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi i'r neb y mynno.

Daniel 4