Daniel 3:27-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. A'r tywysogion, dugiaid, a phendefigion, a chynghoriaid y brenin, a ymgasglasant ynghyd, ac a welsant y gwŷr hyn, y rhai ni finiasai y tân ar eu cyrff, ac ni ddeifiasai flewyn o'u pen, ni newidiasai eu peisiau chwaith, ac nid aethai sawr y tân arnynt.

28. Atebodd Nebuchodonosor a dywedodd, Bendigedig yw Duw Sadrach, Mesach, ac Abednego, yr hwn a anfonodd ei angel, ac a waredodd ei weision a ymddiriedasant ynddo, ac a dorasant orchymyn y brenin, ac a roddasant eu cyrff, rhag gwasanaethu nac ymgrymu ohonynt i un duw, ond i'w Duw eu hun.

29. Am hynny y gosodir gorchymyn gennyf fi, Pob pobl, cenedl, a iaith, yr hon a ddywedo ddim ar fai yn erbyn Duw Sadrach, Mesach, ac Abednego, a wneir yn ddrylliau, a'u tai a wneir yn domen: oherwydd nad oes duw arall a ddichon wared fel hyn.

30. Yna y mawrhaodd y brenin Sadrach, Mesach, ac Abednego, o fewn talaith Babilon.

Daniel 3