13. Yna Nebuchodonosor mewn llidiowgrwydd a dicter a ddywedodd am gyrchu Sadrach, Mesach, ac Abednego. Yna y ducpwyd y gwŷr hyn o flaen y brenin.
14. Adroddodd Nebuchodonosor a dywedodd wrthynt, Ai gwir hyn, Sadrach, Mesach, ac Abednego? oni addolwch chwi fy nuwiau i, ac oni ymgrymwch i'r ddelw aur a gyfodais i?
15. Yr awr hon wele, os byddwch chwi barod pan glywoch sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, a'r symffon, a phob rhyw gerdd, i syrthio ac i ymgrymu i'r ddelw a wneuthum, da: ac onid ymgrymwch, yr awr honno y bwrir chwi i ganol ffwrn o dân poeth; a pha Dduw yw efe a'ch gwared chwi o'm dwylo i?
16. Sadrach, Mesach, ac Abednego a atebasant ac a ddywedasant wrth y brenin, Nebuchodonosor, nid ydym ni yn gofalu am ateb i ti yn y peth hyn.
17. Wele, y mae ein Duw ni, yr hwn yr ydym ni yn ei addoli, yn abl i'n gwared ni allan o'r ffwrn danllyd boeth: ac efe a'n gwared ni o'th law di, O frenin.
18. Ac onid e, bydded hysbys i ti, frenin, na addolwn dy dduwiau, ac nad ymgrymwn i'th ddelw aur a gyfodaist.