Daniel 2:33-49 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

33. Ei choesau o haearn, ei thraed oedd beth ohonynt o haearn, a pheth ohonynt o bridd.

34. Edrych yr oeddit hyd oni thorrwyd allan garreg, nid trwy waith dwylo, a hi a drawodd y ddelw ar ei thraed o haearn a phridd, ac a'u maluriodd hwynt.

35. Yna yr haearn, y pridd, y pres, yr arian, a'r aur, a gydfaluriasant, ac oeddynt fel mân us yn dyfod o'r lloriau dyrnu haf; a'r gwynt a'u dug hwynt ymaith, ac ni chaed lle iddynt; a'r garreg yr hon a drawodd y ddelw a aeth yn fynydd mawr, ac a lanwodd yr holl ddaear.

36. Dyma y breuddwyd: dywedwn hefyd ei ddehongliad o flaen y brenin.

37. Ti, frenin, wyt frenin brenhinoedd: canys Duw y nefoedd a roddodd i ti frenhiniaeth, gallu, a nerth, a gogoniant.

38. A pha le bynnag y preswylia plant dynion, efe a roddes dan dy law fwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd, ac a'th osododd di yn arglwydd arnynt oll: ti yw y pen aur hwnnw.

39. Ac ar dy ôl di y cyfyd brenhiniaeth arall is na thi, a thrydedd frenhiniaeth arall o bres, yr hon a lywodraetha ar yr holl ddaear.

40. Bydd hefyd y bedwaredd frenhiniaeth yn gref fel haearn: canys yr haearn a ddryllia, ac a ddofa bob peth: ac fel haearn, yr hwn a ddryllia bob peth, y maluria ac y dryllia hi.

41. A lle y gwelaist y traed a'r bysedd, peth ohonynt o bridd crochenydd, a pheth ohonynt o haearn, brenhiniaeth ranedig fydd; a bydd ynddi beth o gryfder haearn, oherwydd gweled ohonot haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd.

42. Ac fel yr ydoedd bysedd y traed, peth o haearn, a pheth o bridd; felly y bydd y frenhiniaeth, o ran yn gref, ac o ran yn frau.

43. A lle y gwelaist haearn wedi ei gymysgu â phridd cleilyd, ymgymysgant â had dyn; ond ni lynant y naill wrth y llall, megis nad ymgymysga haearn â phridd.

44. Ac yn nyddiau y brenhinoedd hyn, y cyfyd Duw y nefoedd frenhiniaeth, yr hon ni ddistrywir byth: a'r frenhiniaeth ni adewir i bobl eraill; ond hi a faluria, ac a dreulia yr holl freniniaethau hyn, a hi a saif yn dragywydd.

45. Lle y gwelaist dorri carreg o'r mynydd, yr hon ni thorrwyd â llaw, a malurio ohoni yr haearn, y pres, y pridd, yr arian, a'r aur; hysbysodd y Duw mawr i'r brenin beth a fydd wedi hyn: felly y breuddwyd sydd wir, a'i ddehongliad yn ffyddlon.

46. Yna y syrthiodd Nebuchodonosor y brenin ar ei wyneb, ac a addolodd Daniel; gorchmynnodd hefyd am offrymu iddo offrwm ac arogl‐darth.

47. Atebodd y brenin a dywedodd wrth Daniel, Mewn gwirionedd y gwn mai eich Duw chwi yw Duw y duwiau, ac Arglwydd y brenhinoedd, a datguddydd dirgeledigaethau, oherwydd medru ohonot ddatguddio y dirgelwch hwn.

48. Yna y brenin a fawrygodd Daniel, ac a roddes iddo roddion mawrion lawer; ac efe a'i gwnaeth ef yn bennaeth ar holl dalaith Babilon, ac yn ben i'r swyddogion ar holl ddoethion Babilon.

49. Yna Daniel a ymbiliodd â'r brenin, ac yntau a osododd Sadrach, Mesach, ac Abednego ar lywodraeth talaith Babilon: ond Daniel a eisteddodd ym mhorth y brenin.

Daniel 2