25. Yna y dug Arioch Daniel o flaen y brenin ar frys, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Cefais ŵr o blant caethiwed Jwda, yr hwn a fynega i'r brenin y dehongliad.
26. Atebodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, yr hwn yr oedd ei enw Beltesassar, A elli di fynegi i mi y breuddwyd a welais, a'i ddehongliad?
27. Atebodd Daniel o flaen y brenin, a dywedodd, Ni all doethion, astronomyddion, dewiniaid, na brudwyr, ddangos i'r brenin y dirgelwch y mae y brenin yn ei ofyn:
28. Ond y mae Duw yn y nefoedd yn datguddio dirgeledigaethau, ac a fynegodd i'r brenin Nebuchodonosor beth a fydd yn y dyddiau diwethaf. Dy freuddwyd a gweledigaethau dy ben yn dy wely ydoedd hyn yma:
29. Ti frenin, dy feddyliau a godasant yn dy ben ar dy wely, beth oedd i ddyfod ar ôl hyn: a'r hwn sydd yn datguddio dirgeledigaethau, a fynegodd i ti beth a fydd.
30. Minnau hefyd, nid oherwydd y doethineb sydd ynof fi yn fwy na neb byw, y datguddiwyd i mi y dirgelwch hwn: ond o'u hachos hwynt y rhai a fynegant y dehongliad i'r brenin, ac fel y gwybyddit feddyliau dy galon.
31. Ti, frenin, oeddit yn gweled, ac wele ryw ddelw fawr: y ddelw fawr hon, yr oedd ei disgleirdeb yn rhagorol, oedd yn sefyll gyferbyn â thi; a'r olwg arni ydoedd ofnadwy.
32. Pen y ddelw hon ydoedd o aur da, ei dwyfron a'i breichiau o arian, ei bol a'i morddwydydd o bres,
33. Ei choesau o haearn, ei thraed oedd beth ohonynt o haearn, a pheth ohonynt o bridd.
34. Edrych yr oeddit hyd oni thorrwyd allan garreg, nid trwy waith dwylo, a hi a drawodd y ddelw ar ei thraed o haearn a phridd, ac a'u maluriodd hwynt.
35. Yna yr haearn, y pridd, y pres, yr arian, a'r aur, a gydfaluriasant, ac oeddynt fel mân us yn dyfod o'r lloriau dyrnu haf; a'r gwynt a'u dug hwynt ymaith, ac ni chaed lle iddynt; a'r garreg yr hon a drawodd y ddelw a aeth yn fynydd mawr, ac a lanwodd yr holl ddaear.
36. Dyma y breuddwyd: dywedwn hefyd ei ddehongliad o flaen y brenin.