24. Oherwydd hyn yr aeth Daniel at Arioch, yr hwn a osodasai y brenin i ddifetha doethion Babilon: efe a aeth, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Na ddifetha ddoethion Babilon; dwg fi o flaen y brenin, a mi a ddangosaf i'r brenin y dehongliad.
25. Yna y dug Arioch Daniel o flaen y brenin ar frys, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Cefais ŵr o blant caethiwed Jwda, yr hwn a fynega i'r brenin y dehongliad.
26. Atebodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, yr hwn yr oedd ei enw Beltesassar, A elli di fynegi i mi y breuddwyd a welais, a'i ddehongliad?
27. Atebodd Daniel o flaen y brenin, a dywedodd, Ni all doethion, astronomyddion, dewiniaid, na brudwyr, ddangos i'r brenin y dirgelwch y mae y brenin yn ei ofyn:
28. Ond y mae Duw yn y nefoedd yn datguddio dirgeledigaethau, ac a fynegodd i'r brenin Nebuchodonosor beth a fydd yn y dyddiau diwethaf. Dy freuddwyd a gweledigaethau dy ben yn dy wely ydoedd hyn yma:
29. Ti frenin, dy feddyliau a godasant yn dy ben ar dy wely, beth oedd i ddyfod ar ôl hyn: a'r hwn sydd yn datguddio dirgeledigaethau, a fynegodd i ti beth a fydd.
30. Minnau hefyd, nid oherwydd y doethineb sydd ynof fi yn fwy na neb byw, y datguddiwyd i mi y dirgelwch hwn: ond o'u hachos hwynt y rhai a fynegant y dehongliad i'r brenin, ac fel y gwybyddit feddyliau dy galon.