Daniel 2:10-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Y Caldeaid a atebasant o flaen y brenin, ac a ddywedasant, Nid oes dyn ar y ddaear a ddichon ddangos yr hyn y mae y brenin yn ei ofyn; ac ni cheisiodd un brenin, na phennaeth, na llywydd, y fath beth â hwn gan un dewin, nac astronomydd, na Chaldead.

11. Canys dieithr yw y peth a gais y brenin, ac nid oes neb arall a fedr ei ddangos o flaen y brenin, ond y duwiau, y rhai nid yw eu trigfa gyda chnawd.

12. O achos hyn y digiodd y brenin ac y creulonodd yn ddirfawr, ac a orchmynnodd ddifetha holl ddoethion Babilon.

13. Yna yr aeth y gyfraith allan am ladd y doethion; ceisiasant hefyd Daniel a'i gyfeillion i'w lladd.

14. Yna yr atebodd Daniel trwy gyngor a doethineb i Arioch, pen‐distain y brenin, yr hwn a aethai allan i ladd doethion Babilon:

15. Efe a lefarodd ac a ddywedodd wrth Arioch, distain y brenin, Paham y mae y gyfraith yn myned ar y fath frys oddi wrth y brenin? Yna Arioch a fynegodd y peth i Daniel.

16. Yna Daniel a aeth i mewn, ac a ymbiliodd â'r brenin am roddi iddo amser, ac y dangosai efe y dehongliad i'r brenin.

17. Yna yr aeth Daniel i'w dŷ, ac a fynegodd y peth i'w gyfeillion, Hananeia, Misael, ac Asareia;

18. Fel y ceisient drugareddau gan Dduw y nefoedd yn achos y dirgelwch hwn; fel na ddifethid Daniel a'i gyfeillion gyda'r rhan arall o ddoethion Babilon.

19. Yna y datguddiwyd y dirgelwch i Daniel mewn gweledigaeth nos: yna Daniel a fendithiodd Dduw y nefoedd.

20. Atebodd Daniel a dywedodd, Bendigedig fyddo enw Duw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb: canys doethineb a nerth ydynt eiddo ef:

21. Ac efe sydd yn newid amserau, a thymhorau: efe sydd yn symud brenhinoedd, ac yn gosod brenhinoedd: efe sydd yn rhoddi doethineb i'r doethion, a gwybodaeth i'r rhai a fedrant ddeall:

22. Efe sydd yn datguddio y pethau dyfnion a chuddiedig: efe a ŵyr beth sydd yn y tywyllwch, a chydag ef y mae y goleuni yn trigo.

23. Tydi Dduw fy nhadau yr ydwyf fi yn diolch iddo, ac yn ei foliannu, oherwydd rhoddi ohonot ddoethineb a nerth i mi, a pheri i mi wybod yn awr yr hyn a geisiasom gennyt: canys gwnaethost i ni wybod yr hyn a ofynnodd y brenin.

24. Oherwydd hyn yr aeth Daniel at Arioch, yr hwn a osodasai y brenin i ddifetha doethion Babilon: efe a aeth, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Na ddifetha ddoethion Babilon; dwg fi o flaen y brenin, a mi a ddangosaf i'r brenin y dehongliad.

25. Yna y dug Arioch Daniel o flaen y brenin ar frys, ac a ddywedodd wrtho fel hyn; Cefais ŵr o blant caethiwed Jwda, yr hwn a fynega i'r brenin y dehongliad.

Daniel 2