16. A'r hwn a ddaw yn ei erbyn ef a wna fel y mynno, ac ni bydd a safo o'i flaen; ac efe a saif yn y wlad hyfryd, a thrwy ei law ef y difethir hi.
17. Ac efe a esyd ei wyneb ar fyned รข chryfder ei holl deyrnas, a rhai uniawn gydag ef; fel hyn y gwna: ac efe a rydd iddo ferch gwragedd, gan ei llygru hi; ond ni saif hi ar ei du ef, ac ni bydd hi gydag ef.
18. Yna y try efe ei wyneb at yr ynysoedd, ac a ennill lawer; ond pennaeth a bair i'w warth ef beidio, er ei fwyn ei hun, heb warth iddo ei hun: efe a'i detry arno ef.