Daniel 11:13-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Canys brenin y gogledd a ddychwel, ac a gyfyd dyrfa fwy na'r gyntaf, ac ymhen ennyd o flynyddoedd, gan ddyfod y daw â llu mawr, ac â chyfoeth mawr.

14. Ac yn yr amseroedd hynny llawer a safant yn erbyn brenin y deau; a'r ysbeilwyr o'th bobl a ymddyrchafant i sicrhau y weledigaeth; ond hwy a syrthiant.

15. Yna y daw brenin y gogledd, ac a fwrw glawdd, ac a ennill y dinasoedd caerog, ond breichiau y deau ni wrthsafant, na'i bobl ddewisol ef; ac ni bydd nerth i sefyll.

16. A'r hwn a ddaw yn ei erbyn ef a wna fel y mynno, ac ni bydd a safo o'i flaen; ac efe a saif yn y wlad hyfryd, a thrwy ei law ef y difethir hi.

17. Ac efe a esyd ei wyneb ar fyned â chryfder ei holl deyrnas, a rhai uniawn gydag ef; fel hyn y gwna: ac efe a rydd iddo ferch gwragedd, gan ei llygru hi; ond ni saif hi ar ei du ef, ac ni bydd hi gydag ef.

18. Yna y try efe ei wyneb at yr ynysoedd, ac a ennill lawer; ond pennaeth a bair i'w warth ef beidio, er ei fwyn ei hun, heb warth iddo ei hun: efe a'i detry arno ef.

19. Ac efe a dry ei wyneb at amddiffynfeydd ei dir ei hun: ond efe a dramgwydda, ac a syrth, ac nis ceir ef.

20. Ac yn ei le ef y saif un a gyfyd drethau yng ngogoniant y deyrnas; ond o fewn ychydig ddyddiau y distrywir ef; ac nid mewn dig, nac mewn rhyfel.

21. Ac yn ei le yntau y saif un dirmygus, ac ni roddant iddo ogoniant y deyrnas: eithr efe a ddaw i mewn yn heddychol, ac a ymeifl yn y frenhiniaeth trwy weniaith.

22. Ac â breichiau llifeiriant y llifir trostynt o'i flaen ef, ac y dryllir hwynt, a thywysog y cyfamod hefyd.

23. Ac wedi ymgyfeillach ag ef, y gwna efe dwyll: canys efe a ddaw i fyny, ac a ymgryfha ag ychydig bobl.

24. I'r dalaith heddychol a bras y daw efe, ac a wna yr hyn ni wnaeth ei dadau, na thadau ei dadau: ysglyfaeth, ac ysbail, a golud, a daena efe yn eu mysg: ac ar gestyll y bwriada efe ei fwriadau, sef dros amser.

Daniel 11