Daniel 11:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac yn y flwyddyn gyntaf i Dareius y Mediad, y sefais i i'w gryfhau ac i'w nerthu ef.

2. Ac yr awr hon y gwirionedd a fynegaf i ti; Wele, tri brenin eto a safant o fewn Persia, a'r pedwerydd a fydd gyfoethocach na hwynt oll: ac fel yr ymgadarnhao efe yn ei gyfoeth, y cyfyd efe bawb yn erbyn teyrnas Groeg.

3. A brenin cadarn a gyfyd, ac a lywodraetha รข llywodraeth fawr, ac a wna fel y mynno.

4. A phan safo efe, dryllir ei deyrnas, ac a'i rhennir tua phedwar gwynt y nefoedd; ac nid i'w hiliogaeth ef, nac fel ei lywodraeth a lywodraethodd efe: oherwydd ei frenhiniaeth ef a ddiwreiddir i eraill heblaw y rhai hynny.

5. Yna y cryfha brenin y deau, ac un o'i dywysogion: ac efe a gryfha uwch ei law ef, ac a lywodraetha: llywodraeth fawr fydd ei lywodraeth ef.

Daniel 11