Daniel 10:6-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A'i gorff oedd fel maen beryl, a'i wyneb fel gwelediad mellten, a'i lygaid fel lampau tân, a'i freichiau a'i draed fel lliw pres gloyw, a sain ei eiriau fel sain tyrfa.

7. A mi Daniel yn unig a welais y weledigaeth; canys y dynion y rhai oedd gyda mi ni welsant y weledigaeth; eithr syrthiodd arnynt ddychryn mawr, fel y ffoesant i ymguddio.

8. A mi a adawyd fy hunan, ac a welais y weledigaeth fawr hon, ac ni thrigodd nerth ynof: canys fy ngwedd a drodd ynof yn llygredigaeth, ac nid ateliais nerth.

9. Eto mi a glywais sain ei eiriau ef: a phan glywais sain ei eiriau ef, yna yr oeddwn mewn trymgwsg ar fy wyneb, a'm hwyneb tua'r ddaear.

10. Ac wele, llaw a gyffyrddodd â mi, ac a'm gosododd ar fy ngliniau, ac ar gledr fy nwylo.

11. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Daniel, ŵr annwyl, deall y geiriau a lefaraf wrthyt, a saf yn dy sefyll: canys atat ti y'm hanfonwyd yr awr hon. Ac wedi iddo ddywedyd y gair hwn, sefais gan grynu.

12. Yna efe a ddywedodd wrthyf, Nac ofna, Daniel: oherwydd er y dydd cyntaf y rhoddaist dy galon i ddeall, ac i ymgystuddio gerbron dy Dduw, y gwrandawyd dy eiriau; ac oherwydd dy eiriau di y deuthum i.

13. Ond tywysog teyrnas Persia a safodd yn fy erbyn un diwrnod ar hugain: ond wele Michael, un o'r tywysogion pennaf, a ddaeth i'm cynorthwyo; a mi a arhosais yno gyda brenhinoedd Persia.

14. A mi a ddeuthum i beri i ti ddeall yr hyn a ddigwydd i'th bobl yn y dyddiau diwethaf: oherwydd y mae y weledigaeth eto dros ddyddiau lawer.

15. Ac wedi iddo lefaru wrthyf y geiriau hyn, gosodais fy wyneb tua'r ddaear, ac a euthum yn fud.

16. Ac wele, tebyg i ddyn a gyffyrddodd â'm gwefusau: yna yr agorais fy safn, ac y lleferais, ac y dywedais wrth yr hwn oedd yn sefyll ar fy nghyfer, O fy arglwydd, fy ngofidiau a droesant arnaf gan y weledigaeth, ac nid ateliais nerth.

Daniel 10