Daniel 10:10-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Ac wele, llaw a gyffyrddodd â mi, ac a'm gosododd ar fy ngliniau, ac ar gledr fy nwylo.

11. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Daniel, ŵr annwyl, deall y geiriau a lefaraf wrthyt, a saf yn dy sefyll: canys atat ti y'm hanfonwyd yr awr hon. Ac wedi iddo ddywedyd y gair hwn, sefais gan grynu.

12. Yna efe a ddywedodd wrthyf, Nac ofna, Daniel: oherwydd er y dydd cyntaf y rhoddaist dy galon i ddeall, ac i ymgystuddio gerbron dy Dduw, y gwrandawyd dy eiriau; ac oherwydd dy eiriau di y deuthum i.

13. Ond tywysog teyrnas Persia a safodd yn fy erbyn un diwrnod ar hugain: ond wele Michael, un o'r tywysogion pennaf, a ddaeth i'm cynorthwyo; a mi a arhosais yno gyda brenhinoedd Persia.

14. A mi a ddeuthum i beri i ti ddeall yr hyn a ddigwydd i'th bobl yn y dyddiau diwethaf: oherwydd y mae y weledigaeth eto dros ddyddiau lawer.

15. Ac wedi iddo lefaru wrthyf y geiriau hyn, gosodais fy wyneb tua'r ddaear, ac a euthum yn fud.

16. Ac wele, tebyg i ddyn a gyffyrddodd â'm gwefusau: yna yr agorais fy safn, ac y lleferais, ac y dywedais wrth yr hwn oedd yn sefyll ar fy nghyfer, O fy arglwydd, fy ngofidiau a droesant arnaf gan y weledigaeth, ac nid ateliais nerth.

17. A pha fodd y dichon gwasanaethwr fy arglwydd yma lefaru wrth fy arglwydd yma? a minnau yna ni safodd nerth ynof, ac nid arhodd ffun ynof.

18. Yna y cyffyrddodd eilwaith â mi fel dull dyn, ac a'm cryfhaodd i,

19. Ac a ddywedodd, Nac ofna, ŵr annwyl; heddwch i ti, ymnertha, ie, ymnertha. A phan lefarasai efe wrthyf, ymnerthais, a dywedais, Llefared fy arglwydd; oherwydd cryfheaist fi.

20. Ac efe a ddywedodd, a wyddost ti paham y deuthum atat? ac yn awr dychwelaf i ryfela â thywysog Persia: ac wedi i mi fyned allan, wele, tywysog tir Groeg a ddaw.

21. Eithr mynegaf i ti yr hyn a hysbyswyd yn ysgrythur y gwirionedd; ac nid oes un yn ymegnïo gyda mi yn hyn, ond Michael eich tywysog chwi.

Daniel 10