Daniel 1:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Jehoiacim brenin Jwda, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i Jerwsalem, ac a warchaeodd arni.

2. A'r Arglwydd a roddes i'w law ef Jehoiacim brenin Jwda, a rhan o lestri tŷ Dduw; yntau a'u dug hwynt i wlad Sinar, i dŷ ei dduw ef; ac i drysordy ei dduw y dug efe y llestri.

3. A dywedodd y brenin wrth Aspenas ei ben‐ystafellydd, am ddwyn o feibion Israel, ac o'r had brenhinol, ac o'r tywysogion,

4. Fechgyn y rhai ni byddai ynddynt ddim gwrthuni, eithr yn dda yr olwg, a deallgar ym mhob doethineb, ac yn gwybod gwybodaeth, ac yn deall cyfarwyddyd, a'r rhai y byddai grym ynddynt i sefyll yn llys y brenin, i'w dysgu ar lyfr ac yn iaith y Caldeaid.

5. A'r brenin a ddognodd iddynt ran beunydd o fwyd y brenin, ac o'r gwin a yfai efe; felly i'w maethu hwynt dair blynedd, fel y safent ar ôl hynny gerbron y brenin.

6. Ac yr ydoedd yn eu plith hwynt o feibion Jwda, Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia:

7. A'r pen‐ystafellydd a osododd arnynt enwau: canys ar Daniel y gosododd efe Beltesassar; ac ar Hananeia, Sadrach; ac ar Misael, Mesach; ac ar Asareia, Abednego.

8. A Daniel a roddes ei fryd nad ymhalogai efe trwy ran o fwyd y brenin, na thrwy y gwin a yfai efe: am hynny efe a ddymunodd ar y pen‐ystafellydd, na byddai raid iddo ymhalogi.

9. A Duw a roddes Daniel mewn ffafr a thiriondeb gyda'r pen‐ystafellydd.

10. A'r pen‐ystafellydd a ddywedodd wrth Daniel, Ofni yr ydwyf fi fy arglwydd y brenin, yr hwn a osododd eich bwyd chwi a'ch diod chwi: oherwydd paham y gwelai efe eich wynebau yn gulach na'r bechgyn sydd fel chwithau? felly y parech fy mhen yn ddyledus i'r brenin.

Daniel 1