Colosiaid 4:16-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Ac wedi darllen yr epistol hwn gyda chwi, perwch ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid: a darllen ohonoch chwithau yr un o Laodicea.

17. A dywedwch wrth Archipus, Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ar i ti ei chyflawni hi.

18. Yr annerch รข'm llaw i Paul fy hun. Cofiwch fy rhwymau. Gras fyddo gyda chwi. Amen.At y Colosiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus ac Onesimus.

Colosiaid 4