Colosiaid 4:14-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Y mae Luc y ffisigwr annwyl, a Demas, yn eich annerch.

15. Anerchwch y brodyr sydd yn Laodicea, a Nymffas, a'r eglwys sydd yn ei dŷ ef.

16. Ac wedi darllen yr epistol hwn gyda chwi, perwch ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid: a darllen ohonoch chwithau yr un o Laodicea.

17. A dywedwch wrth Archipus, Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ar i ti ei chyflawni hi.

18. Yr annerch â'm llaw i Paul fy hun. Cofiwch fy rhwymau. Gras fyddo gyda chwi. Amen.At y Colosiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus ac Onesimus.

Colosiaid 4