Colosiaid 4:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y meistriaid, gwnewch i'ch gweision yr hyn sydd gyfiawn ac union; gan wybod fod i chwithau Feistr yn y nefoedd.

2. Parhewch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda diolchgarwch;

3. Gan weddïo hefyd drosom ninnau, ar i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd, i adrodd dirgelwch Crist, am yr hwn yr ydwyf hefyd mewn rhwymau:

4. Fel yr eglurhawyf ef, megis y mae yn rhaid i mi ei draethu.

5. Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai sydd allan, gan brynu'r amser.

Colosiaid 4