1. Y meistriaid, gwnewch i'ch gweision yr hyn sydd gyfiawn ac union; gan wybod fod i chwithau Feistr yn y nefoedd.
2. Parhewch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda diolchgarwch;
3. Gan weddïo hefyd drosom ninnau, ar i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd, i adrodd dirgelwch Crist, am yr hwn yr ydwyf hefyd mewn rhwymau:
4. Fel yr eglurhawyf ef, megis y mae yn rhaid i mi ei draethu.
5. Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai sydd allan, gan brynu'r amser.
6. Bydded eich ymadrodd bob amser yn rasol, wedi ei dymheru â halen, fel y gwypoch pa fodd y mae yn rhaid i chwi ateb i bob dyn.
7. Fy holl helynt i a fynega Tychicus i chwi, y brawd annwyl, a'r gweinidog ffyddlon, a'r cyd‐was yn yr Arglwydd:
8. Yr hwn a ddanfonais atoch er mwyn hyn, fel y gwybyddai eich helynt chwi, ac y diddanai eich calonnau chwi;
9. Gydag Onesimus, y ffyddlon a'r annwyl frawd, yr hwn sydd ohonoch chwi. Hwy a hysbysant i chwi bob peth a wneir yma.
10. Y mae Aristarchus, fy nghyd‐garcharor, yn eich annerch; a Marc, nai Barnabas fab ei chwaer, (am yr hwn y derbyniasoch orchmynion: os daw efe atoch, derbyniwch ef;)
11. A Jesus, yr hwn a elwir Jwstus, y rhai ydynt o'r enwaediad. Y rhai hyn yn unig yw fy nghyd‐weithwyr i deyrnas Dduw, y rhai a fuant yn gysur i mi.