Colosiaid 3:8-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Ond yr awron rhoddwch chwithau ymaith yr holl bethau hyn; dicter, llid, drygioni, cabledd, serthedd, allan o'ch genau.

9. Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyd â'i weithredoedd;

10. A gwisgo'r newydd, yr hwn a adnewyddir mewn gwybodaeth, yn ôl delw yr hwn a'i creodd ef:

11. Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth.

12. Am hynny, (megis etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl,) gwisgwch amdanoch ymysgaroedd trugareddau, cymwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ymaros;

13. Gan gyd‐ddwyn â'ch gilydd, a maddau i'ch gilydd, os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb: megis ag y maddeuodd Crist i chwi, felly gwnewch chwithau.

14. Ac am ben hyn oll, gwisgwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd.

15. A llywodraethed tangnefedd Duw yn eich calonnau, i'r hwn hefyd y'ch galwyd yn un corff; a byddwch ddiolchgar.

16. Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth ym mhob doethineb; gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol, gan ganu trwy ras yn eich calonnau i'r Arglwydd.

17. A pha beth bynnag a wneloch, ar air neu ar weithred, gwnewch bob peth yn enw'r Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a'r Tad trwyddo ef.

18. Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr priod, megis y mae yn weddus yn yr Arglwydd.

19. Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt.

20. Y plant, ufuddhewch i'ch rhieni ym mhob peth: canys hyn sydd yn rhyngu bodd i'r Arglwydd yn dda.

21. Y tadau, na chyffrowch eich plant, fel na ddigalonnont.

22. Y gweision, ufuddhewch ym mhob peth i'ch meistriaid yn ôl y cnawd; nid â llygad‐wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, yn ofni Duw:

Colosiaid 3