Colosiaid 2:1-2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Canys mi a ewyllysiwn i chwi wybod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi, a'r rhai yn Laodicea, a chynifer ag ni welsant fy wyneb i yn y cnawd;

2. Fel y cysurid eu calonnau hwy, wedi eu cydgysylltu mewn cariad, ac i bob golud sicrwydd deall, i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw, a'r Tad, a Christ;

Colosiaid 2