Caniad Solomon 8:11-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Yr oedd gwinllan i Solomon yn Baal‐hamon: efe a osododd y winllan i warcheidwaid; pob un a ddygai am ei ffrwyth fil o ddarnau arian.

12. Fy ngwinllan sydd ger fy mron: mil a roddir i ti, Solomon, a dau cant i'r rhai a gadwant ei ffrwyth hi.

13. O yr hon a drigi yn y gerddi, y cyfeillion a wrandawant ar dy lais: pâr i mi ei glywed.

14. Brysia, fy anwylyd, a bydd debyg i iwrch neu lwdn hydd ar fynyddoedd y perlysiau.

Caniad Solomon 8