7. Dy uchder yma sydd debyg i balmwydden, a'th fronnau i'r grawnsypiau.
8. Dywedais, Dringaf i'r balmwydden, ymaflaf yn ei cheinciau: ac yn awr dy fronnau fyddant megis grawnâganghennau y winwydden, ac arogl dy ffroenau megis afalau;
9. A thaflod dy enau megis y gwin gorau i'm hanwylyd, yn myned i waered yn felys, ac yn peri i wefusau y rhai a fyddo yn cysgu lefaru.
10. Eiddo fy anwylyd ydwyf fi, ac ataf fi y mae ei ddymuniad ef.
11. Tyred, fy anwylyd, awn i'r maes, a lletywn yn y pentrefi.