Caniad Solomon 7:6-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Mor deg ydwyt, ac mor hawddgar, fy nghariad, a'm hyfrydwch!

7. Dy uchder yma sydd debyg i balmwydden, a'th fronnau i'r grawnsypiau.

8. Dywedais, Dringaf i'r balmwydden, ymaflaf yn ei cheinciau: ac yn awr dy fronnau fyddant megis grawn‐ganghennau y winwydden, ac arogl dy ffroenau megis afalau;

9. A thaflod dy enau megis y gwin gorau i'm hanwylyd, yn myned i waered yn felys, ac yn peri i wefusau y rhai a fyddo yn cysgu lefaru.

10. Eiddo fy anwylyd ydwyf fi, ac ataf fi y mae ei ddymuniad ef.

Caniad Solomon 7