Caniad Solomon 7:11-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Tyred, fy anwylyd, awn i'r maes, a lletywn yn y pentrefi.

12. Boregodwn i'r gwinllannoedd; edrychwn a flodeuodd y winwydden, a agorodd egin y grawnwin, a flodeuodd y pomgranadau: yno y rhoddaf fy nghariad i ti.

13. Y mandragorau a roddasant arogledd, ac wrth ein drysau y mae pob rhyw odidog ffrwythau, newydd a hen, y rhai a rois i gadw i ti, fy anwylyd.

Caniad Solomon 7