Caniad Solomon 6:4-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Teg ydwyt ti, fy anwylyd, megis Tirsa, gweddus megis Jerwsalem, ofnadwy megis llu banerog.

5. Tro dy lygaid oddi wrthyf, canys hwy a'm gorchfygasant: dy wallt sydd fel diadell o eifr y rhai a ymddangosant o Gilead.

6. Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid a ddâi i fyny o'r olchfa, y rhai sydd bob un yn dwyn dau oen, ac heb un yn ddiepil yn eu mysg.

7. Dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad.

8. Y mae trigain o freninesau, ac o ordderchwragedd bedwar ugain, a llancesau heb rifedi.

9. Un ydyw hi, fy ngholomen, fy nihalog; unig ei mam yw hi, dewisol yw hi gan yr hon a'i hesgorodd: y merched a'i gwelsant, ac a'i galwasant yn ddedwydd; y breninesau a'r gordderchwragedd, a hwy a'i canmolasant hi.

10. Pwy yw hon a welir fel y wawr, yn deg fel y lleuad, yn bur fel yr haul, yn ofnadwy fel llu banerog?

11. Euthum i waered i'r ardd gnau, i edrych am ffrwythydd y dyffryn, i weled a flodeuasai y winwydden, a flodeuasai y pomgranadau.

12. Heb wybod i mi y'm gwnaeth fy enaid megis cerbydau Amminadib.

13. Dychwel, dychwel, y Sulamees; dychwel, dychwel, fel yr edrychom arnat. Beth a welwch chwi yn y Sulamees? Megis tyrfa dau lu.

Caniad Solomon 6